“Mae’r Gaplaniaeth yn y Tŷ Cwrdd yn lle anhygoel o gyfeillgar a chroesawgar i fyfyrwyr a staff o bob ffydd a dim ffydd. Mae’n lle i ddathlu amrywiaeth a bydd pobl bob amser yn gwenu’n galonogol arnoch chi ac yn cynnig wyneb cyfeillgar i gael sgwrs. Ni allaf ddiolch digon i dîm y Gaplaniaeth am y gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig i lawer o’n myfyrwyr rhyngwladol wrth iddyn nhw wneud De Cymru yn ail gartref iddyn nhw. Mae’n lle diogel, yn lle cadarnhaol, lle mae croeso i bawb a lle mae pawb yn cael eu parchu.”

Rheolwr Recriwtio

PDC Rhyngwladol

“Y Tŷ Cwrdd yw’r lle i fynd i ymlacio, dadflino a mwynhau. Mae’n lle rydych chi bob amser yn teimlo’n gartrefol ynddo. Mae hyn oherwydd yr awyrgylch y mae’r staff cyfeillgar, siriol a chymwynasgar wedi’i greu. Diolch yn fawr.”

Arbenigwr Cymorth Trefforest

PDC

“Cyn gynted ag y dechreuais ar fywyd Prifysgol yn 2017, sylweddolais nad oedd yr amgylchedd yn gyfeillgar iawn a bod bywyd yn brysur iawn yma. Ffrind soniodd wrtha i am y Tŷ Cwrdd. Dyma’r unig le yn y brifysgol lle mae pobl yn dod i siarad, a chael bywyd cymdeithasol. Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau yn y Tŷ Cwrdd. Yna fe wnes i ddechrau Gwirfoddoli a dechrau ymuno â gwahanol ddigwyddiadau diwylliannol gyda nhw. Erbyn hyn, mae’r Gaplaniaeth (y Tŷ Cwrdd) yn rhan o fy mywyd bob dydd. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r Gaplaniaeth.”

Cyn-fyfyriwr

Myfyriwr Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau BSc

“Mae’r Gaplaniaeth yn cyffwrdd â chynifer o agweddau ar fywyd Prifysgol, a bob amser mewn modd cefnogol a chynhwysol. Yn fy nwy flynedd gyntaf yn PDC, rydw i wedi gweld staff y Gaplaniaeth yn cefnogi myfyrwyr unigol ar adegau anodd yn eu bywydau, wedi cael y fraint o wirfoddoli wrth iddyn nhw weini bwyd i’r rhai sy’n dilyn Ramadan ac wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau fel cefnogi ein staff a’n myfyrwyr o Sri Lanka yn sgil ymosodiadau yn eu mamwlad. Maen nhw wedi cefnogi gwaith Spectrum, gan ddarparu lleoliad ar gyfer gweithgareddau ac arweinyddiaeth cyfranogiad staff yn ein gwaith ar faterion LHDT+. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig cyflenwad hanfodol i Wasanaethau Myfyrwyr, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael cefnogaeth gan y naill neu’r llall yn y ffordd sy’n addas iddyn nhw.”

Deon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth

PDC

“Er bod gan y Gaplaniaeth lawer o weithgareddau yn ystod y dydd a gyda’r nos, mae yna gornel dawel bob amser, wyneb cyfeillgar a phaned o goffi i’ch cyfarch pan fyddwch chi’n cerdded drwy’r drysau. Yng nghanol prysurdeb campws y Brifysgol, mae’r Gaplaniaeth yn cynnig hafan lle gallwch chi gymryd seibiant i ymlacio yn ystod eich diwrnod. Mae’r holl staff sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yno mor ymroddedig i’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac mae’n wych gallu helpu mewn digwyddiadau fel prydau Ramadan a gwasanaethau carolau lle rydych chi’n cael cwrdd â llawer o bobl newydd o gynifer o wahanol gefndiroedd, gwledydd, ffydd, credoau a diwylliannau, mewn amgylchedd mor hyfryd a hamddenol.

Cynorthwyydd Personol Deon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth

PDC

“Ethos y Gaplaniaeth yw croesawu amrywiaeth ac mae tîm y Gaplaniaeth wir yn ymgorffori’r egwyddor hon ym mhopeth a wnânt, gan gynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar i’r holl staff a myfyrwyr, a lle cyfforddus i gwrdd ag eraill dros baned o de. Rwy’n argymell mynd i’r nifer o ddigwyddiadau diddorol y mae’r Gaplaniaeth yn eu cynnal, gan gynnwys nosweithiau ffilm, sgyrsiau, darlithoedd a sesiynau hyfforddi. Mae’r Gaplaniaeth hefyd yn cynnull Rhwydwaith Sbectrwm Staff LHDT+, sydd wedi tyfu o ran niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd bellach yn rhwydwaith ffyniannus sy’n chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo cydraddoldeb LHDT+ yn PDC.”

Partner Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Adnoddau Dynol

PDC

“Gall mynd i’r brifysgol fod yn gyfnod prysur a heriol iawn yn aml; mae natur arafach y Gaplaniaeth yn rhywbeth i’w groesawu. Mae’r awyrgylch hamddenol a chroesawgar yn creu lle delfrydol i astudio neu i gael seibiant ar ôl darlith flinedig. Gan na fydd y Tŷ Cwrdd ar agor ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol yn ystod y tymor hwn, gallwch fod yn sicr y bydd tîm y Gaplaniaeth o gwmpas i’ch helpu pan fydd eu hangen arnoch. Mae’r staff bob amser yn gymwynasgar, gan gynnig atebion pan fydda i’n cael trafferth trefnu digwyddiadau ar gyfer yr Undeb Cristnogol. Diolch am eich holl help.”

Cyn-fyfyriwr

BSc Cemeg

“Mae’r Gaplaniaeth yn ‘deulu â’i ddrysau’n agored’. Gan fy mod yn wirfoddolwr brwd yn ôl adref yn Nigeria, rydw i bob amser wedi bod eisiau rhoi help llaw mewn unrhyw sefyllfa y byddaf ynddi. Mae’r Gaplaniaeth wedi cynnig platfform nid yn unig i wasanaethu ynddo ond amgylchedd hyfryd i gwrdd â staff cynnes a chroesawgar, cymwynasgar a gwneud ffrindiau newydd gwych. Fe wnaeth y gefnogaeth gan y Gaplaniaeth fy ngorfodi i ddal ati gyda fy mhrofiad dysgu cymysg yn ystod y pandemig hwn. Ydych chi ymhell o adref ac yn awyddus i ddod i adnabod ffrindiau newydd? Mae’r Gaplaniaeth bob amser ar gael.”

Cyn-fyfyriwr

Meistr MBA mewn Gweinyddu Busnes

“Alla i ddim pwysleisio digon faint mae’r Gaplaniaeth wedi fy helpu’n emosiynol. Mae wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd personol a’m profiad yn y brifysgol. Mae’r bobl yn y Gaplaniaeth yn croesawu pawb. Rwy’n credu go iawn mai dyma galon y brifysgol. Rwy’n ei argymell yn fawr i bob myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru ymuno â theulu’r Gaplaniaeth, wnewch chi ddim difaru. Mae’n gymuned y gall pawb fod yn rhan ohoni. Mae’r awyrgylch yn wych, p’un ai a ydych chi’n poeni am eich astudiaethau, am rywbeth personol neu’n hiraethu, pwy bynnag ydych chi, o ble bynnag yr ydych chi’n dod, byddan nhw bob amser yn eich helpu chi.”

Cyn-fyfyriwr

Meistr mewn Gweinyddu Busnes

“Mae Cynghrair Undebau Llafur PDC yn falch o gefnogi’r Gwasanaeth Caplaniaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Mewn cyfnodau o her a newid, mae’r Gaplaniaeth yn darparu ffynhonnell hanfodol o ofal bugeiliol, cefnogaeth ysbrydol, a chysylltiad cymunedol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Rydym yn cydnabod y rôl gynhwysol a thosturiol y mae’r Gaplaniaeth yn ei chwarae wrth hyrwyddo lles, urddas a pharch ar draws cymuned ein prifysgol. Fel undebau llafur sydd wedi ymrwymo i degwch a chydymdeimlad, rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad y Gaplaniaeth at amgylchedd campws cefnogol a gofalgar.”

Cadeirydd Undeb Llafur PDC

PDC

“Rwy’n falch o fod yn rhan o gymuned sy’n croesawu myfyrwyr o bob cymuned a chefndir yn fawr iawn. Mae Caplaniaeth PDC yn rhan hanfodol o’n cymuned. Mae’n rhywle lle mae pob myfyriwr yn cael profi caredigrwydd, parch, a chalon agored. Beth bynnag yw eich cefndir, diwylliant, credoau, neu brofiad bywyd, fe gewch chi le diogel yma i siarad, myfyrio, ceisio cefnogaeth, a meithrin cysylltiadau. Mae Caplaniaeth PDC yn ymgorffori’r ysbryd o berthyn sy’n diffinio PDC. Cymuned lle rydych chi’n cael eich croesawu a’ch gwerthfawrogi, a rhywle lle rydyn ni, gyda’n gilydd, yn helpu ein gilydd i dyfu, ffynnu a gwneud gwahaniaeth.”

Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr

PDC

“Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru yn falch bod gennym gymuned amlddiwylliannol amrywiol ar draws pob campws sy’n ceisio creu amgylcheddau diogel a gofalgar lle mae pob myfyriwr yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn, eu deall a’u cefnogi waeth beth fo’u ffydd, diwylliant, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydyn ni’n cefnogi’r gwaith gwych y mae’r Gwasanaethau Caplaniaeth yn ei wneud gyda’n myfyrwyr; maen nhw’n sicr yn rhan hanfodol o fywyd myfyrwyr a’n cymuned ehangach yn y brifysgol.”

Prif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr

Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru

“Gall bywyd prifysgol fod yn gyffrous iawn ond hefyd yn eithaf llethol. Mae Gwasanaethau Caplaniaeth PDC yn cynnig lle tawel a chroesawgar lle gall myfyrwyr o bob ffydd, neu ddim ffydd o gwbl, ddod o hyd i glust i wrando arnyn nhw, cefnogaeth a charedigrwydd. P’un ai a ydych chi’n gweithio eich ffordd drwy heriau personol, yn chwilio am arweiniad ysbrydol, neu os oes angen rhywun arnoch i siarad ag ef, gall Gwasanaethau Caplaniaeth PDC helpu, a chynnig lle diogel i fyfyrio a thrafod. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi elwa o’r lle, y caredigrwydd a’r cyngor ymarferol cadarn a gynigir iddynt gan ein gwasanaeth Caplaniaeth.”

Pennaeth Plismona Proffesiynol a Throseddeg

PDC

Y Gaplaniaeth – Fy Harbwr Diogel – Yn y Gaplaniaeth, des i o hyd i frodyr, ffrindiau, cyfeillion, a mentoriaid – pobl a ddaeth yn deulu yn y pen draw. Fe wnaethon nhw ddod ag egni cadarnhaol i mewn i’m bywyd a helpu i feithrin fy hyder mewn ffyrdd na wnes i erioed eu dychmygu. Roeddwn wrth fy modd yn gwasanaethu eraill, gweld eu gwên, a rhannu cyfnodau o ddathlu, yn enwedig yn ystod Eid. Y Gaplaniaeth yw lle rwy’n teimlo’n fwyaf diogel ar y campws. Fe wnaeth fy nghefnogi drwy gyfnodau anodd, fy annog i dyfu, a’m helpu i ddod y fersiwn orau ohonof fy hun. Fyddwn i ddim wedi dod yn Llysgennad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant heb fy mhrofiad gwirfoddoli yn y Gaplaniaeth. Mae’n lle sy’n rhoi croeso cynnes i staff a myfyrwyr. Mae’r Gaplaniaeth yn lle diogel go iawn, yn faes chwarae ar gyfer twf personol, yn ganolfan ar gyfer cydweithio ar draws gwahaniaethau, yn lle i ffydd gael ei mynegi’n rhydd, ac yn gartref i syniadau cynhwysol.”

Cyn-fyfyriwr

MSc mewn Rheolaeth

“Mae’r Gaplaniaeth yn hardd y tu mewn a’r tu allan. Mae’r ystafelloedd yn brydferth ac yn lân iawn. Mae’r staff yn glên, yn garedig, yn gariadus, yn dosturiol, yn hael ac yn gyfeillgar. Rwyf wedi cael y fraint o weithio yno a gofyn am gymorth gan y staff yno pan oeddwn i’n wynebu rhai heriau yn ystod fy astudiaethau a gallaf ddweud yn hyderus eu bod yn gymorth mawr i mi pryd bynnag yr oeddwn o’u cwmpas. Os caf y fraint rywbryd o gael dewis lle i weithio yng Nghampws Trefforest, Prifysgol De Cymru, byddwn yn fwy na hapus i ddewis y Gaplaniaeth. Bendithia Duw Gaplaniaeth Campws Trefforest Prifysgol De Cymru, yn awr ac am byth (amen ac amen).”

Cyn-fyfyriwr

MSc mewn Electroneg a Thechnoleg Gwybodaeth

“Roedd dechrau fy mywyd yn y DU yn daith a ddilynais ar fy mhen fy hun gan adael fy nheulu a’r pethau oedd yn gyfarwydd i mi ar ôl. Yn ystod cyfnod Ramadan, dechreuais wirfoddoli yn Nhŷ Cwrdd y brifysgol, ac roeddwn i mor ffodus i gwrdd â thîm y Gaplaniaeth. Daethant yn deulu i mi gan fy annog, credu ynof a rhannu’r holl gyfnodau llwyddiannus â mi wrth iddynt ddod yn rhan ohonof, yn union fel fy nheulu. Gan fy mod i’n rhywun sy’n hoffi cwmni, daeth y Tŷ Cwrdd yn lle arall oedd yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol. Fe wnes i gwrdd â llawer o bobl a dod o hyd i lawer o ffrindiau da, mae gennyf gymaint o atgofion da o’r Tŷ Cwrdd, sy’n llawn cariad, gofal, chwerthin, mwynhad a hapusrwydd.”

Cyn-fyfyriwr

BSc Anrh mewn Peirianneg Awyrennau a Systemau Cynnal a Chadws

“Y Tŷ Cwrdd oedd y rheswm pam y gwnes i sylweddoli bod yn rhaid i fy mywyd newid; fy ffordd o feddwl, fy ymddygiad ac ati. A minnau’n dod o wlad fach, fyddwn ni ddim yn dweud fy mod mor agored fy meddwl. Mae’r Tŷ Cwrdd wedi fy nysgu bod pob bod dynol yn gyfartal, waeth beth fo’u cefndir, lliw, diwylliant gan nad dyma sy’n diffinio unigolyn. Daeth y Tŷ Cwrdd yn ‘gartref’ i mi yng Nghymru; lle i mi dreulio amser gyda ffrindiau, gwirfoddoli, bwyta, astudio, ymlacio a gweddïo. Rwyf bendant yn argymell y dylai myfyrwyr roi cyfle i’r lle ‘cynnes’ hwn sy’n ein helpu i dyfu, a cheisio dod o hyd i rôl go iawn y lle, sef caru eich cymydog fel chi eich hun.”

Dirprwy Ddeon y Gyfadran Busnes a’r Diwydiannau Creadigol

PDC

“Dros y blynyddoedd, mae myfyrwyr Chwaraeon wedi dod i ddibynnu’n fawr ar dîm y Gaplaniaeth. Mae eu dull proffesiynol a thosturiol wedi darparu cefnogaeth ddiwyro, waeth beth fo’r sefyllfa. Yn bwysig, mae eu gofal bob amser wedi bod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.”

Pennaeth Chwaraeon

PDC

“Pan gyrhaeddais y brifysgol gyntaf, roedd dod o hyd i’r Gaplaniaeth yn y Tŷ Cwrdd fel dod o hyd i harbwr tawel mewn môr prysur. Yn gyflym iawn, daeth yn lle oedd yn cynnig seibiant ac yn rhoi ymdeimlad o dawelwch i mi. Mae’r Gaplaniaeth yn llawer mwy na lle ffisegol i gael cysur; mae’n gymuned fywiog a gwirioneddol gynhwysol. P’un ai a oeddwn i’n chwilio am eiliad o heddwch, yn ymuno â thrafodaeth a oedd yn procio’r meddwl, neu dim ond angen lle diogel i rannu’r hyn oedd ar fy meddwl, roeddwn i bob amser yn cael fy nghroesawu gyda gwên ddiffuant a chlust i wrando. Roedd yna ymdeimlad amlwg o dderbyn pawb a oedd yn ei gwneud hi’n hawdd teimlo’n gyfforddus a bod yn fi fy hun, heb unrhyw ffugio. Yr hyn wnaeth gyffwrdd fy nghalon mewn gwirionedd oedd ymroddiad anhygoel y Gaplaniaeth i ddathlu amrywiaeth a chynnig cartref i bawb. Roedd darparu cyfleusterau gweddi i Fwslimiaid yn gysur dyddiol, yn gornel dawel i gysylltu â’m ffydd. Wna i byth anghofio’r caredigrwydd o gael bwyd wedi’i weini i mi yn ystod Ramadan, gan wneud i mi deimlo’n llai unig i ffwrdd o adref yn ystod y mis sanctaidd. A llwyddodd y dathliadau ar gyfer Eid, ynghyd â melysion blasus a gwên gan bawb, i greu ymdeimlad o gymuned a pherthyn y byddaf yn ei drysori am byth. Roedd cwrdd â Michelle, pennaeth y Gaplaniaeth, wir yn anrhydedd. Mae hi’n ymgorffori ysbryd y Tŷ Cwrdd, gwnaeth ei chynhesrwydd a’i hempathi i mi deimlo fy mod i’n cael fy ngweld a’m gwerthfawrogi go iawn, nid yn unig fel myfyriwr, ond fel unigolyn â fy stori fy hun. Y gofal gwirioneddol hwn sydd wedi gwneud y Gaplaniaeth yn lle rwy’n ei ystyried yn gartref oddi cartref. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am yr ymdeimlad hwnnw o berthyn a’r nifer o adegau o heddwch a chyfeillgarwch y mae wedi’u rhoi i mi.”

Cyn-fyfyriwr

Cyfreithiau LLM

“Alla i ddim dechrau dweud wrthych chi pa mor gynnes, agored a chroesawgar yw’r Tŷ Cwrdd. Gan fy mod yn rhan o’r gymuned LHDT+, roeddwn i wedi arfer tybio bod lle sy’n gysylltiedig â chrefydd yn wynebu heriau gyda fy hunaniaeth, ond nid yw hyn yn wir o gwbl o ran y Tŷ Cwrdd. Mae ein cyfarfodydd LHDT+ yn cael eu cynnal yma, yn ogystal ag amryw o sgyrsiau a digwyddiadau LHDT+. Nid dim ond cael fy ‘ngoddef’ yma ydw i. Rydw i’n cael fy nghefnogi’n frwd. Rydyn ni fel prifysgol mor ffodus i gael lle fel hyn ar y campws!”

Cydlynydd Lleoliadau

PDC

“Mae’r Gaplaniaeth yn deulu mor gynnes a chroesawgar. Rydw i wedi defnyddio’r Tŷ Cwrdd ar gyfer digwyddiadau ac wedi mynd i gynifer o achlysuron yno hefyd. Mae gan y Tŷ Cwrdd ystafelloedd addas ar gyfer pob math o ddigwyddiadau. Fe wnes i fwynhau bob eiliad yn y Tŷ Cwrdd! Roedd y croeso cynnes a’r teimlad o berthyn yn gwneud i’r adeilad deimlo fel cartref.”

Cyn-fyfyriwr

BSc mewn Seicoleg gyda Dadansoddi Ymddygiad

“Mae’r Gaplaniaeth yn lle prydferth. Mae wedi dangos y byd i mi o dan un to, lle mae pawb, ni waeth o ble rydych chi’n dod, yr un mor ddiddorol â’i gilydd. Rhannu diwylliannau, ieithoedd a chael hwyl – boed hynny’n chwarae’r piano gyda’n gilydd neu’n chwerthin dros baned o goffi. Lle mae cyfeillgarwch yn cael ei feithrin a waliau’n cael eu dymchwel, fe gewch gymorth a does neb yn eich barnu. Dyma ein lle diogel ni, fy lle diogel i, ac rwyf bob amser yn ddiolchgar amdanom ni waeth ble rwy’n mynd mewn bywyd.”

Cyn-fyfyriwr

BSc mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol